Anna ap Robert

Ymarferydd Dawns gyfoes, greadigol ac ychydig o Strictly!

Ar ôl graddio mewn astudiaethau theatr yn 1995 yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin bu Anna yn cydlynu, cynhyrchu a chyfarwyddo prosiectau theatr ieuenctid i Theatr Felin-fach am 17 o flynyddoedd o 1995-2012. Tra roedd yno cafodd flwyddyn allan i wneud cwrs diploma proffesiynol mewn dawns gymunedol yng Nghanolfan Laban Llundain o 2001-02. Yn wreiddiol o Aberystwyth mae hi nawr yn byw yn Lledrod gyda ei gŵr Geraint a’i mab Tomos sy’n 15 mlwydd oed.

Mae Anna wedi gweithio a pherfformio gyda Dawns Dyfed, Brith Gof, Chwmni Dawns Pluen, Cyrff Ystwyth, Theatr Arad Goch, Cwmni’r Frân Wen, Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw, Theatr Genedlaethol Cymru, Eddie Ladd, Jo Fong, Music Theatre Wales, Cai Tomos ac wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu gan gynnwys Y Sioe Gelf, Y Gwyll, Ysgoloriaeth Bryn Terfel a Phobol y Cwm. Mae hi hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae Anna wedi cynnal nifer o nosweithiau ‘Strictly’ mewn cydweithrediad â’r ysgolion a’r cylchoedd meithrin yn lleol. Yn ystod y cyfnod clo manteisiodd ar y cyfle i gynnal gwersi dawns ar-lein o’r enw ‘Sialens Strictly 2020’ i’r gymuned. Codwyd dros £400 i’r NHS yng Nghymru.

Gwersi ar Ysgol Cymru


Gofyn cwestiwn

Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth i Anna ap Robert am wersi Ysgol Cymru?

Anfon cwestiwn i Anna ap Robert