Dysgu dawns 'Jive'

Oedrannau: 7 i 11

Math o gwrs: Sesiwn sengl

Cost fesul pen: £8.00

Yn y dosbarth hwn bydd myfyrwyr yn dysgu dawns Y Jive gan ddysgu stepiau, symudiadau a choreograffi i gerddoriaeth Jail House Rock.

Byddwn yn dechrau’r wers trwy dwymo’r corff yn drylwyr gan ganolbwyntio ar gylchu ac ymestyn y cymalau y byddwn yn eu defnyddio yn y ddawns.

Byddwn wedyn yn edrych ar ddelweddau o ddawnswyr yn gwneud y jive gan siarad am ein hoff ddelweddau a pham.

Byddwn wedyn yn dewis ein hoff ddelweddau ac yn eu defnyddio fel sbardun i ddechrau’r ddawns.

Yna symudwn ymlaen at ddysgu stepiau jive sylfaenol. Bydd y myfyrwyr yn dilyn cyfarwyddiadau gam wrth gam.

Byddwn yn dysgu’r symudiadau fesul cymal / pennill, yn ailadrodd cymalau ac yn rhoi digon o amser i’r myfyrwyr ymarfer.

Erbyn diwedd y wers bydd y myfyrwyr wedi dysgu dawns gyfan steil y jive i gerddoriaeth Jail House Rock.

Byddwn yn gorffen y wers drwy gael sgwrs am yr hyn wnaeth y myfyrwyr ei fwynhau / ddim ei fwynhau / eu hoff symudiad / ddelwedd a thrafod pa steil yr hoffai nhw ei wneud nesaf.

Byddwn yn ymestyn y cymalau ac yn cymryd tair anadl ddofn i orffen.

Arweiniad gan rieni

Dim

Anghenion

Gwisg addas sy’n gyfforddus i symud a dawnsio ynddi. Digon o le i symud.

Sesiynau sydd ar gael

Dim sesiynau ar y calendr ar hyn o bryd.

Tiwtor

Anna ap Robert

Ymarferydd Dawns gyfoes, greadigol ac ychydig o Strictly!


Gofyn cwestiwn

Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth am Dysgu dawns 'Jive' sydd ddim yn glir uchod?

Anfon cwestiwn i Anna ap Robert

Gwersi - rhestr gyfan