Oedrannau: 5 i 8
Math o gwrs: Sesiwn sengl
Cost fesul pen: £5.00
Sesiwn i ddysgu’r gân ‘Wil Cwac Cwac’ gan Leah Owen – y darn sydd wedi ei awgrymu ar gyfer Unawd Blwyddyn 3 ac iau yn Eisteddfod T
Byddwn yn croesawu pawb ac yn trafod profiadau pawb o ganu mewn Eisteddfod. Yna byddwn yn dysgu rhai ymarferion hawdd i gynhesu’r llais cyn cychwyn canu a chanu cân hwyliog. Byddwn yn edrych ar y geiriau a’u hystyr a sut i geisio’i dehongli wrth ganu ac yn ymarfer ynganu yn glir. Yna byddwn yn mynd ati i ddysgu’r gân fesul rhan yn araf, gan dalu sylw i gael y traw a’r rhythmau yn gywir, anadlu mewn mannau synhwyrol yn y geiriau, a defnyddio deinameg i greu perfformiad diddorol a phleserus i’r gynulleidfa.
Bydd cyfle i’r disgyblion berfformio’n unigol i’r dosbarth os y dymunir (bydd dim pwysau i wneud hyn o gwbl).
Erbyn diwedd y wers bydd y disgyblion wedi cyfarwyddo gyda’r geiriau a’r alaw ac yn yn hyderus i fynd ati i ymarfer y gân yn annibynnol.
Gan nad yw cyd-ganu yn gweithio’n effeithiol dros y wê bydd angen i’r tiwtor dawelu meicroffonau ar adegau pan yn canu, ond bydd y meicroffonau ar agor ar adegau eraill yn y wers er mwyn i’r plant gymryd rhan.
Bydd angen eistedd mewn man cyfforddus yn barod i ganu!
Bydd geiriau’r gân ar y sgrîn yn ystod y wers ac mae copi o’r gerddoriaeth i’w gael trwy ddilyn y ddolen ar wefan Eisteddfod T os ydi’r disgybl yn dymuno dilyn copi.
Tiwtor cerddoriaeth offerynnol a lleisiol.
Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth am Dewch i Ganu - Dysgu sgiliau canu gyda'r gân ‘Wil Cwac Cwac’ sydd ddim yn glir uchod?