Dawnsio Cyfoes a Chreadigol!

Oedrannau: 12 i 16

Math o gwrs: Sesiwn sengl

Cost fesul pen: £8.00

Cyfle i ddysgu techneg ddawns sylfaenol ac i feithrin hyder i symud y corff mewn modd creadigol a chyffrous.

Bydd rhan cynta'r sesiwn yn ffocysu ar sut i gynhesu'r corff mewn ffordd effeithlon a chywir gan bwysleisio pwysigrwydd edrych ar ôl y corff wrth symud. Yn y rhan nesaf o’r sesiwn byddwn yn symud ymlaen i ddysgu cymalau byr o ddawns sy'n ffocysu ar adeiladu techneg dawns sylfaennol a gwella alin-iad y corff. Byddwn yn dysgu ac yn mynd trwy’r ymarferion gyda’n gilydd a chael lot o hwyl wrth wneud! Bydd rhan olaf y dosbarth yn ffocysu ar agwedd mwy creadigol sy'n rhoi rhyddid ac yn annog y dawnswyr i ddefnyddio'r dychymyg fel modd o greu symudiadau newydd.

Arweiniad gan rieni

Gwnewch yn siwr bod y gofod yn glir o unrhyw beth all achosi niwed i’r disgybl wrth ddawnsio (neu unrhywbeth gwerthfawr all dorri yn y broses).

Anghenion

1. Gofod maint digonol sy’n glir o unrhyw beth a all achosi niwed wrth symud drwy’r gofod.
2. Dillad ymarfer corff sy’n gyfforddus ac yn addas i symud ynddynt.
3. Dŵr yfed.

Sesiynau sydd ar gael

Dim sesiynau ar y calendr ar hyn o bryd.

Tiwtor

Meilir Ioan

Gwersi dawns gyfoes a chreadigol!


Gofyn cwestiwn

Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth am Dawnsio Cyfoes a Chreadigol! sydd ddim yn glir uchod?

Anfon cwestiwn i Meilir Ioan

Gwersi - rhestr gyfan