Pobi Cwcis Mini Eggs Efrog Newydd

Oedrannau: 8 i 11

Math o gwrs: Sesiwn sengl

Cost fesul pen: £8.00

Yn y wers hon fe fydd y dysgwyr yn dysgu sut i bobi Cwcis Mini Eggs Efrog Newydd.

Byddwn yn dechrau'r wers trwy drafod peryglon mewn cegin, hylendid bwyd a phersonol a’r wisg addas ar gyfer coginio. Yna symudwn ymlaen at restru’r cynhwysion a’r offer sydd eu angen ar gyfer cwblhau’r dasg. Byddwn yn mynd trwy pob cam yn ara deg er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu dilyn y cyfarwyddiadau yn gywir. Byddwn yn gorffen y wers drwy wneud yn siwr bod pawb wedi gallu cwblhau’r dasg yn gywir, ac os fydd y cwcis wedi oeri digon, gallwn eu blasu! Byddwn hefyd yn gwerthuso ein bwyd a thrafod beth fyddai pawb yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf.

Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n gallu dilyn cyfarwyddiadau syml a mesur cynhwysion wrth ddefnyddio clorian.

Arweiniad gan rieni

Bydd y dysgwyr yn defnyddio’r popty felly fe fydd angen help gan oedolyn gyda hyn.

Anghenion

Offer: Clorian, powlen gymysgu (neu beiriant cymysgu), bwrdd pobi, popty
Cynhwysion:
125g o fenyn di-halen
100g o Siwgr brown golau
75g o Siwgr gwyn (granulated)
1 wŷ canolig/mawr
1 llwy de o Fanila
300g o Flawd plaen
1 ½ llwy de o bowdwr pobi
½ llwy de o Bicarbonate of Soda
½ llwy de o halen
100g o Dairy Milk (wedi torri yn fân)
200g o Mini Eggs (wedi eu torri)
50g o Mini Eggs (cyfan)

Sesiynau sydd ar gael

Dim sesiynau ar y calendr ar hyn o bryd.

Tiwtor

Lois Nottingham

Athrawes a phobydd proffesiynol


Gofyn cwestiwn

Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth am Pobi Cwcis Mini Eggs Efrog Newydd sydd ddim yn glir uchod?

Anfon cwestiwn i Lois Nottingham

Gwersi - rhestr gyfan