Llif Egni Hapus gyda’r Eirth Ioga

Oedrannau: 4 i 7

Math o gwrs: Sesiwn sengl

Cost fesul pen: £4.50

Mi fydd y sesiwn yma’n canolbwyntio ar greu egni hapus tu mewn i’r corff drwy ymarfer siapiau ioga a thechnegau anadlu gwahanol.

Mi fydd y sesiwn yn cychwyn wrth gyflwyno y 7 Eirth Ioga gyda’u pwerau arbennig, wedi’i gysylltu gyda’r “chakras” tu mewn i’r corff. Yna, byddwn yn canolbwyntio ar yr Arth ‘Mula’ gyda’i phwer arbennig o ‘Hapusrwydd’. Mi fydd y plant yn cael eu hannog i gymryd ‘amser i feddwl’ wrth feddwl am un peth sy’n gwneud iddynt deimlo’n HAPUS!
Byddwn yn symud ymlaen i gychwyn ‘Llif Anadl’ cyntaf y wers er mwyn tawelu’r meddwl a ffocysu ar ein meddyliau hapus, wedyn cynhesu’r corff drwy ymestyn a deffro darnau gwahanol y corff.
Ar ol cynhesu, byddem yn ymarfer ‘Llif Dawns yr Haul’ cyn dod mewn i un o siapiau arbennig ‘Mula’, i greu’r teimlad o hapusrwydd, cryfder a bod yn saff.
I orffen y wers, byddem yn gorffwys drwy thawelu’r corff a’r meddwl gyda meddwlgarwch ‘Lliwiau’r Enfys’.


*Ar gyfer rhai siapiau mi fyddaf yn cynnig addasiadau hawsach/ anoddach ynghyd a sut i gadw rhai darnau y corff yn saff e.e. dim pwyso ar y penglin wrth ddod mewn i siap ‘Coeden’.

Arweiniad gan rieni

Ar gyfer rhai siapiau mi fyddaf yn cynnig addasiadau hawsach/ anoddach ynghyd a sut i gadw rhai darnau y corff yn saff.

Anghenion

Dillad ymarfer corff/ cyfforddus, mat ioga, blanced (ar gyfer amser gorffwys os yn dymuno).

Sesiynau sydd ar gael

Dim sesiynau ar y calendr ar hyn o bryd.

Tiwtor

Emma Jones / Llifo'n Llawen

Athrawes Ioga a Meddwlgarwch llawn hwyl a majic i blant!


Gofyn cwestiwn

Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth am Llif Egni Hapus gyda’r Eirth Ioga sydd ddim yn glir uchod?

Anfon cwestiwn i Emma Jones / Llifo'n Llawen

Gwersi - rhestr gyfan