Dewch i Ganu!

Oedrannau: 3 i 5

Math o gwrs: Sesiwn sengl

Cost fesul pen: £4.00

Amser anffurfiol hwyliog o ganu gyda’r plant lleiaf er mwyn dechrau datblygu eu sgiliau cerddorol, a rhoi hyder iddyn nhw ganu.

Byddwn yn croesawu pawb drwy ganu i ddechrau ac yna awn ymlaen i ddysgu caneuon amrywiol sy’n addas i’r rhai bach ganu gan ddefnyddio symudiadau hawdd ac ambell fideo. Bydd y caneuon yn ddigon hawdd i’r plant eu dysgu ac yn addas i ddysgwyr. Gobeithir y bydd y plant yn gallu cymryd rhan yn annibynnol ond mae croeso i’r rhieni ymuno hefyd!

Arweiniad gan rieni

Gan nad yw cyd-ganu yn gweithio’n effeithiol dros y wê bydd angen i’r tiwtor dawelu meicroffonnau ar adegau pan yn canu, ond bydd y meicroffonau ar agor ar adegau eraill yn y wers er mwyn i’r plant gymryd rhan.

Anghenion

Eistedd mewn man cyfforddus yn barod i ganu! Gall y plant ddod a hoff degan i’w ddangos i’r dosbarth os ydy’n nhw’n dymuno.

Sesiynau sydd ar gael

Dim sesiynau ar y calendr ar hyn o bryd.

Tiwtor

Siwan Lisa Evans

Tiwtor cerddoriaeth offerynnol a lleisiol.


Gofyn cwestiwn

Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth am Dewch i Ganu! sydd ddim yn glir uchod?

Anfon cwestiwn i Siwan Lisa Evans

Gwersi - rhestr gyfan