Mae gennyf brofiad helaeth o ddysgu unigolion a grwpiau offerynnol gyda Gwasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac mae hi’n rhoi gwersi unigol ar-lein ac yn ei chartref.
Yn ystod y dwy flynedd ddiwethaf bues yn gweithio yn ysgolion Cymraeg y Wladfa yn dysgu dosbarthiadau canu i blant oed meithrin a chynradd, ac yn hyfforddi grwpiau cerddorol yn y gymuned. Y llynedd gan fod ysgolion yr Ariannin wedi bod ar-lein drwy’r flwyddyn bues i’n rhoi gwersi dosbarth ar-lein ac yn creu fideos i helpu’r disgyblion ddysgu caneuon ar YouTube.
Gan mai Sbaeneg ydi iaith gyntaf y plant yn yr ysgolion Cymraeg roedd rhaid gwneud yn siwr bod y gwersi yn hawdd iawn i’w deall ac yn cefnogi’r gwersi iaith gan yr athrawon eraill.
Bues i’n astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caeredin a chefais radd dosbarth cyntaf, yna fe gefais ôl-radd Athro mewn cerddoriaeth o Brifysgol Bangor. Am flynyddoedd roeddwn yn gweithio yn Stiwdio Sain fel cynhyrchydd a pheiriannydd ac roedd cyfleoedd gwych i weithio gyda phob math o artistiaid proffesiynol ac amatur, yn cynnwys nifer fawr o gantorion a chorau.
Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth i Siwan Lisa Evans am wersi Ysgol Cymru?