Dysgu dawns ‘Y Charleston’

Ages: 7 to 11

Type of course: Sesiwn sengl

Cost per head: £8.00

Yn y dosbarth hwn bydd myfyrwyr yn dysgu dawns Y Charleston gan ddysgu stepiau, symudiadau a choreograffi i gerddoriaeth o’r 1920au.

Byddwn yn dechrau’r wers trwy dwymo’r corff yn drylwyr gan ganolbwyntio ar gylchu ac ymestyn y cymalau y byddwn yn eu defnyddio yn y ddawns. Byddwn wedyn yn edrych ar ddelweddau o ddawnswyr yn gwneud y charleston gan siarad am ein hoff ddelweddau a pham. Byddwn wedyn yn dewis ein hoff ddelweddau ac yn eu defnyddio fel sbardun i ddechrau’r ddawns. Yna symudwn ymlaen at ddysgu stepiau charleston sylfaenol. Bydd y myfyrwyr yn dilyn cyfarwyddiadau gam wrth gam. Byddwn yn dysgu’r symudiadau fesul cymal, yn ailadrodd cymalau ac yn rhoi digon o amser i’r myfyrwyr ymarfer. Erbyn diwedd y wers bydd y myfyrwyr wedi dysgu dawns gyfan steil y charleston i gerddoriaeth o’r 1920au. Byddwn yn gorffen y wers drwy gael sgwrs am yr hyn wnaeth y myfyrwyr ei fwynhau / ddim ei fwynhau / eu hoff symudiad / ddelwedd a thrafod pa steil yr hoffai nhw ei wneud nesaf. Byddwn yn ymestyn y cymalau ac yn cymryd tair anadl ddofn i orffen.

Requirements

Gwisg addas sy’n gyfforddus i symud a dawnsio ynddi. Digon o le i symud.

Available sessions

There are no sessions scheduled at the moment.

Tutor

Anna ap Robert

Ymarferydd Dawns gyfoes, greadigol ac ychydig o Strictly!


Gofyn cwestiwn

Ydych chi eisiau gofyn rhywbeth am Dysgu dawns ‘Y Charleston’ sydd ddim yn glir uchod?

Anfon cwestiwn i Anna ap Robert

Lessons - full list