Gwersi ar ystod eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg
Croeso i Ysgol Cymru, lle mae pobl ifanc yn mwynhau dysgu a chael profiadau newydd trwy’r Gymraeg.
Mae Ysgol Cymru yn ddolen gyswllt unigryw, yn cysylltu pobl ifanc a’u rhieni gyda thiwtoriaid ac arweinwyr fydd yn adlonni, yn addysgu, ac yn datblygu y genhedlaeth newydd.
Trwy wefan Ysgol Cymru bydd modd i’ch plant ddysgu pethau newydd, ehangu ar bynciau diddorol ac ymarfer eu sgiliau. Rydym ni’n dewis ein tiwtoriaid yn ofalus er mwyn darparu amrywiaeth da o gyfleoedd dysgu, a datblygu hyder, sgiliau craidd, ac angerdd am ddysgu, gan roi dealltwriaeth gryfach i’n dysgwyr o'r byd, y gymuned Gymraeg, a'u rhan yn y ddau.
Dyma’r tro cyntaf i’r fath hon o wasanaeth fod ar gael yn y Gymraeg, felly boed yn rhiant sydd am i’ch plant cael mwy o’u hamser ar y we, neu yn ddarpar diwtor gyda sgiliau neu wybodaeth fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, rŷn ni’n hynod falch eich bo chi yma gyda ni!
Ddim yn siwr beth yw Ysgol Cymru? Dyma sut mae wedi gweithio i Dewi (a’i oedolyn!).
Er mwyn dysgu mwy am ein cefndir, ein gweledigaeth, a’n hanian, cliciwch ar ‘Pam ni? Pam nawr?’ ar waelod y dudalen.
Sesiynau | Gwers | Oedrannau |
---|